Wednesday 15 August 2018


Llwyddiant eto i Pant Du


Mae Pant Du yn dathlu eto, ar ôl i’w Seidr a’u Sudd Afal ennill sêr yng Ngwobrau Y “Great Taste”. 

Caiff gwobrau’r Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, eu cydnabod fel y meincnod pwysicaf ar gyfer y bwyd a’r diod gorau yn y DU, ac fe'u disgrifir fel 'Oscars' y byd bwyd.  

Mae Pant Du wedi derbyn tair Seren Aur am eu Seidr Cymharol Sych 500ml. Cafwyd 12,634 o geisiadau yn y gystadleuaeth fawreddog eleni, gan gynnwys pob math o gynnyrch, o goffi i fenyn, ond dim ond 192 a dderbyniodd y wobr tair Seren ar draws y wlad i gyd, a Pant Du oedd un ohonynt.

Yr adborth gan y beirniaid ar y Seidr oedd: "Seidr lliw aur gyda arogl crisp. Blas afal wedi'u stiwio, bron wedi ei garameleiddio. Mae balans o gyfyniad yr afalau wedi'i grefftio'n dda iawn. Blas ffrwythau hyfryd i ddechrau, â gorffeniad hir da. Ysgafnder hyfryd, ond yn llawn blas afalau."

Yn ogystal, dyfarnwyd un seren i Seidr Sych 500ml Pant Du, a hefyd i Sudd Afal Enlli 750ml, y cynnyrch diweddaraf a gafodd ei lansio nol yn 2016.

Dywedodd Richard, Pant Du "Mae'n newyddion gwych fod ein cynnyrch yn cael eu cydnabod ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'n ganlyniad gwych i'r holl fusnes, ac rydym i gyd yn hynod falch. Mae’r holl waith caled sydd ynghlwm a’r broses o greu seidr a sudd afal wedi talu ar ei ganfed.”

“Mae’r weledigaeth o greu perllan yn Pant Du yn dechrau dod i ffrwyth, ar ôl cyfnod hir disgwyliedig i’r coed aeddfedu. Yn y dyfodol y gobaith yw bod Pant Du am fod yn ganolfan tyfu coed afalau cynhenid Cymreig. Lle gellir arbrofi drwy greu gwahanol fath o afalau newydd Cymreig.”


Glesni Mair Williams

Wednesday 30 May 2018

Cogydd Newydd / New Chef


Croeso mawr i Chris, Cogydd newydd Tŷ Bwyta Pant Du. 
Rydym wrth ein bodd i dy groesawu i dîm Pant Du 👨🏼‍🍳🍴

Welcome to our new Chef, Chris! 
We’re thrilled to have you join our team 🍰

Tuesday 10 April 2018



Mae Tŷ Bwyta Pant Du ar agor, a'r Caffi Bach wedi cael ei wedd newid.

Pant Du Cafe now open - Hours 10:30 - 4:30
7 days a week


Thursday 11 January 2018

Estyniad / Extension



Blwyddyn Newydd Dda o’r adeilad newydd 🏗🏠 mae hi’n siapio yma 😍
Happy New Year from the extension 🛠🏠 things are shaping up 😁

Thursday 2 November 2017

Diolch am eich cefnogaeth / Thank you for your support!

Mae Caffi Pant Du wedi cau am y gaeaf, bydd y siop ar agor ar y penwythnosau yn ystod mis Rhagfyr, cyfle i brynu anrhegion Nadolig. 🎄🎁
Edrychwn ymlaen at fis Ebrill 2018 i'ch croesawu i Pant Du ar ei newydd wedd.


Pant Du Café has now closed for winter, but the shop will be open on weekends during December, an opportunity to buy Christmas gifts. 🎄🎁
We look forward to welcoming you in April 2018 to the new Pant Du cafe.