Llwyddiant eto i Pant Du
Mae Pant Du yn dathlu eto, ar ôl i’w Seidr a’u Sudd Afal ennill sêr yng Ngwobrau Y “Great Taste”.
Caiff gwobrau’r Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, eu cydnabod fel y meincnod pwysicaf ar gyfer y bwyd a’r diod gorau yn y DU, ac fe'u disgrifir fel 'Oscars' y byd bwyd.
Mae Pant Du wedi derbyn tair Seren Aur am eu Seidr Cymharol Sych 500ml. Cafwyd 12,634 o geisiadau yn y gystadleuaeth fawreddog eleni, gan gynnwys pob math o gynnyrch, o goffi i fenyn, ond dim ond 192 a dderbyniodd y wobr tair Seren ar draws y wlad i gyd, a Pant Du oedd un ohonynt.
Yr adborth gan y beirniaid ar y Seidr oedd: "Seidr lliw aur gyda arogl crisp. Blas afal wedi'u stiwio, bron wedi ei garameleiddio. Mae balans o gyfyniad yr afalau wedi'i grefftio'n dda iawn. Blas ffrwythau hyfryd i ddechrau, â gorffeniad hir da. Ysgafnder hyfryd, ond yn llawn blas afalau."
Yn ogystal, dyfarnwyd un seren i Seidr Sych 500ml Pant Du, a hefyd i Sudd Afal Enlli 750ml, y cynnyrch diweddaraf a gafodd ei lansio nol yn 2016.
Dywedodd Richard, Pant Du "Mae'n newyddion gwych fod ein cynnyrch yn cael eu cydnabod ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'n ganlyniad gwych i'r holl fusnes, ac rydym i gyd yn hynod falch. Mae’r holl waith caled sydd ynghlwm a’r broses o greu seidr a sudd afal wedi talu ar ei ganfed.”
“Mae’r weledigaeth o greu perllan yn Pant Du yn dechrau dod i ffrwyth, ar ôl cyfnod hir disgwyliedig i’r coed aeddfedu. Yn y dyfodol y gobaith yw bod Pant Du am fod yn ganolfan tyfu coed afalau cynhenid Cymreig. Lle gellir arbrofi drwy greu gwahanol fath o afalau newydd Cymreig.”
Glesni Mair Williams
No comments:
Post a Comment