Showing posts with label Cider. Show all posts
Showing posts with label Cider. Show all posts

Wednesday, 15 August 2018


Llwyddiant eto i Pant Du


Mae Pant Du yn dathlu eto, ar ôl i’w Seidr a’u Sudd Afal ennill sêr yng Ngwobrau Y “Great Taste”. 

Caiff gwobrau’r Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, eu cydnabod fel y meincnod pwysicaf ar gyfer y bwyd a’r diod gorau yn y DU, ac fe'u disgrifir fel 'Oscars' y byd bwyd.  

Mae Pant Du wedi derbyn tair Seren Aur am eu Seidr Cymharol Sych 500ml. Cafwyd 12,634 o geisiadau yn y gystadleuaeth fawreddog eleni, gan gynnwys pob math o gynnyrch, o goffi i fenyn, ond dim ond 192 a dderbyniodd y wobr tair Seren ar draws y wlad i gyd, a Pant Du oedd un ohonynt.

Yr adborth gan y beirniaid ar y Seidr oedd: "Seidr lliw aur gyda arogl crisp. Blas afal wedi'u stiwio, bron wedi ei garameleiddio. Mae balans o gyfyniad yr afalau wedi'i grefftio'n dda iawn. Blas ffrwythau hyfryd i ddechrau, â gorffeniad hir da. Ysgafnder hyfryd, ond yn llawn blas afalau."

Yn ogystal, dyfarnwyd un seren i Seidr Sych 500ml Pant Du, a hefyd i Sudd Afal Enlli 750ml, y cynnyrch diweddaraf a gafodd ei lansio nol yn 2016.

Dywedodd Richard, Pant Du "Mae'n newyddion gwych fod ein cynnyrch yn cael eu cydnabod ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'n ganlyniad gwych i'r holl fusnes, ac rydym i gyd yn hynod falch. Mae’r holl waith caled sydd ynghlwm a’r broses o greu seidr a sudd afal wedi talu ar ei ganfed.”

“Mae’r weledigaeth o greu perllan yn Pant Du yn dechrau dod i ffrwyth, ar ôl cyfnod hir disgwyliedig i’r coed aeddfedu. Yn y dyfodol y gobaith yw bod Pant Du am fod yn ganolfan tyfu coed afalau cynhenid Cymreig. Lle gellir arbrofi drwy greu gwahanol fath o afalau newydd Cymreig.”


Glesni Mair Williams

Wednesday, 2 November 2016

Diolch | Thank You


Diolch / Thank you


Please scroll down for English

Diolch o galon i’n holl gwsmeriaid; a'r caffi bellach wedi cau am y gaeaf mae'n gyfle i ni edrych 'nol a hel atgofion am dymor prysur yr Haf. 

Er y buasai gwylia' yn yr haul yn grêt, does dim amser i ymlacio, mae tymor prysur y Nadolig o'n blaenau. Byddwn yn mynychu nifer o farchnadoedd Nadolig, yn cynnwys Gŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion (link) o Ragfyr yr 2il i’r 4ydd. Dyma’r bedwaredd flwyddyn i ni fynychu’r ŵyl, ac yn edrych ymlaen eto eleni, gobeithio eich gweld yno, mae’n ddigwyddiad gwerth chweil, a chyfle grêt i weld crefftau a chynnyrch safonol lleol.

Bydd y siop yma yn Pant Du hefyd ar agor yn ystod y penwythnosau ym mis Rhagfyr, yn gwerthu ein cynnyrch a phecynnau Nadolig.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu nôl i'r Caffi fis Ebrill 2017. Os na allwch ddisgwyl tan hynny cofiwch fod Pant Du ar agor drwy’r flwyddyn i bartïon preifat neu nosweithiau blasu gwin i griw o 12 a mwy. Hwyl am y tro!

_____________


Thank you to all our customers; with the cafe now closed for winter it's a chance for us looking back and reminisce about the busy summer season.

Although a holiday in the sun would be great, there's no time to relax, a busy Christmas season is ahead. We’ll be attending several Christmas markets, including Portmeirion Food & Craft Fair (link) from December the 2nd to 4th. This will be our fourth year attending the festival, and look forward again this year. We hope to see you there, it’s a fantastic event, and a chance to see great local crafts and produce.

The shop here in Pant Du is also open during the weekends in December, a chance for some Christmas shopping. 

We look forward to welcoming you back to the café in April 2017. If you cannot wait until then, Pant Du is open year round for private parties or wine tasting evenings for a group of 12 and more. Bye for now!