Showing posts with label welsh. Show all posts
Showing posts with label welsh. Show all posts

Thursday, 15 January 2015

Llwyddiant Dŵr Pant Du, a'i fanteision iechyd arbennig!

Dŵr Ffynnon o Gymru Pant DuPant Du : Dŵr Ffynnon o Gymru


Menter ddiweddaraf cwmni Pant Du yn ffynnu!


Fe lansiwyd Dŵr Ffynnon Pant Du yn ôl ym mis Mawrth 2014, ac ers hynny mae'r dŵr wedi cael derbyniad arbennig.

Mae'r dŵr yn tarddu o ddyffryn rhewlifol Dyffryn Nantlle, wrth droed Mynyddoedd anhygoel Eryri. Mae’r dŵr yn cael ei buro a'i hidlo'n naturiol wrth iddo deithio drwy’r creigiau folcanig, Cyn-Gambriaidd sydd dros 500 miliwn o flynyddoedd oed. Taith arbennig y dŵr sydd yn sicrhau ei burdeb a'i flas meddal naturiol.

Ond yn fwy anhygoel na hynny yw lefel pH y dŵr ffynnon, sef pH 7.35; y lefel delfrydol ar gyfer y corff. Mae ymchwil helaeth yn dangos fod anghydbwysedd mewn lefelau pH y corff yn medru effeithio'n negyddol ar ein hiechyd cyffredinol. Gan fod y corff dynol wedi'i ffurfio o 70% o ddŵr, mae'n hollbwysig yfed dŵr sydd â lefel y pH mor agos at 7.35 a phosib.(link) Dyma pam fod Dŵr Ffynnon Pant Du mor arbennig!

Dŵr potel yw'r unig ddiod ar ei'n silffoedd sydd heb unrhyw galorïau, dim siwgr, dim cadwolion (preservatives) a dim ychwanegion; sy'n ei wneud y dewis iachaf sydd ar gael. Beth am roi cynnig i ddŵr Pant Du eich hun?!

www.pantdu.co.uk

Tuesday, 15 April 2014

Sudd Afal Pant Du | Pant Du Apple Juice

YN ÔL MEWN STOCK | BACK IN STOCK

Mae Sudd Afal Llonydd a Pefriog Pant Du yn ôl mewn stoc, ac ar werth yng Nghaffi a Siop Pant Du

Ar gael mewn poteli gwydr maint 750ml.

_________

Pant Du Still and Sparkling Apple Juice are back in stock, and are on sale at Pant Du Cafe and Shop.

Available in 750ml glass bottles.







Mae Siop a Caffi Pant Du ar agor 10.30 i 16.30, 
7 diwrnod yr wythnos.

Pant Du Cafe and Shop are open from 10.30 to 16.30, 
7 days a week.