Thursday 10 November 2016

Nadolig 2016 Christmas













Dyddiadau Nadolig 2016

Bydd Pant Du yn mynychu nifer o farchnadoedd Nadolig y flwyddyn yma, a bydd Siop Pant Du ar agor ar y penwythnosau ym mis Rhagfyr, dyma restr o'r diswyddiadau/dyddiadau isod.


24 Tachwedd

Ffair Nadolig Ysgol y Bontnewydd
Amser - 6pm - 8pm

26 Tachwedd

Ffair Nadolig Penygroes
Lleoliad - Neuadd Goffa Penygroes

2 - 4 Rhagfyr 

Gŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion.
www.portmeirion-village.com 

3 - 4 Rhagfyr

Siop Pant Du ar agor i werthu cynnyrch a phecynnau Nadolig.
Amser - 10:30am - 3:30pm

9 - 10 Rhagfyr
Cracyr Nadolig Bangor
Lleoliad - Stryd Fawr Bangor
Link - Bangor Christmas Cracker

10 - 11 Rhagfyr

Siop Pant Du ar agor i werthu cynnyrch a phecynnau Nadolig.
Amser - 10:30am - 3:30pm

17 - 18 Rhagfyr
Siop Pant Du ar agor i werthu cynnyrch a phecynnau Nadolig.
Amser - 10:30am - 3:30pm



________________

Dates - Christmas 2016


Pant Du will be attending many Christmas markets this year, Pant Du's Shop will also be open during the weekends in December for Christmas shopping. Below is a list of events and dates.


24th November

Ysgol y Bontnewydd Christmas Fair
Time - 6pm - 8pm

26th November

Penygroes Christmas Fair
Location - Neuadd Goffa Penygroes

2 - 4 December 
Portmeirion Food and Craft Fair
www.portmeirion-village.com 

3 - 4 December

Pant Du Shop open selling our own produce, Christmas gifts and hampers.
Time - 10:30am - 3:30pm

9 - 10 December
Bangor Christmas Cracker
Location - Bangor High Street
Link - Bangor Christmas Cracker

10 - 11 December
Pant Du Shop open selling our own produce, Christmas gifts and hampers.
Time - 10:30am - 3:30pm

17 - 18 December
Pant Du Shop open selling our own produce, Christmas gifts and hampers.
Time - 10:30am - 3:30pm



Wednesday 2 November 2016

Diolch | Thank You


Diolch / Thank you


Please scroll down for English

Diolch o galon i’n holl gwsmeriaid; a'r caffi bellach wedi cau am y gaeaf mae'n gyfle i ni edrych 'nol a hel atgofion am dymor prysur yr Haf. 

Er y buasai gwylia' yn yr haul yn grêt, does dim amser i ymlacio, mae tymor prysur y Nadolig o'n blaenau. Byddwn yn mynychu nifer o farchnadoedd Nadolig, yn cynnwys Gŵyl Fwyd a Chrefft Portmeirion (link) o Ragfyr yr 2il i’r 4ydd. Dyma’r bedwaredd flwyddyn i ni fynychu’r ŵyl, ac yn edrych ymlaen eto eleni, gobeithio eich gweld yno, mae’n ddigwyddiad gwerth chweil, a chyfle grêt i weld crefftau a chynnyrch safonol lleol.

Bydd y siop yma yn Pant Du hefyd ar agor yn ystod y penwythnosau ym mis Rhagfyr, yn gwerthu ein cynnyrch a phecynnau Nadolig.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu nôl i'r Caffi fis Ebrill 2017. Os na allwch ddisgwyl tan hynny cofiwch fod Pant Du ar agor drwy’r flwyddyn i bartïon preifat neu nosweithiau blasu gwin i griw o 12 a mwy. Hwyl am y tro!

_____________


Thank you to all our customers; with the cafe now closed for winter it's a chance for us looking back and reminisce about the busy summer season.

Although a holiday in the sun would be great, there's no time to relax, a busy Christmas season is ahead. We’ll be attending several Christmas markets, including Portmeirion Food & Craft Fair (link) from December the 2nd to 4th. This will be our fourth year attending the festival, and look forward again this year. We hope to see you there, it’s a fantastic event, and a chance to see great local crafts and produce.

The shop here in Pant Du is also open during the weekends in December, a chance for some Christmas shopping. 

We look forward to welcoming you back to the café in April 2017. If you cannot wait until then, Pant Du is open year round for private parties or wine tasting evenings for a group of 12 and more. Bye for now!

Thursday 27 October 2016

Grawnwin Rondo Pant Du Grapes
Grawnwin Rondo Pant Du Grapes 2016

Mae’r grawnwin bellach wedi eu casglu, a’r winllan yn ymbaratoi at y gaeaf o'u blaen.
Blwyddyn arall wedi hedfan, a’r grawnwin wedi ffynu eto eleni, er y tywydd cyfnewidiol cafwyd llwyth helaeth o rawnwin oddi ar y gwinwydd.

Bu teulu a ffrindiau wrthi yn ddygun yn casglu y grawnwin yma ganol mis Hydref, ac fel yr arfer cafodd y grawnwin eu cludo i windy Three Choirs yn Newent, Gloucester. Yno mae ganddynt yr arbenigedd i droi ein grawnwin yn win. Bydd yn fis Gorffennaf 2017 arnym yn gweld y gwin eto, gan obeithio am yr un llwyddiant a’r blynyddoedd gorffennol. Iechyd Da!

______________

The grapes have now been collected, and the vineyard is getting ready for the winter ahead.
Another year has flown by, and the grapes have flourished yet again this year, despite the ever changeable weather there was a sizeable collection of grapes from the vines.

As tradition now, family and friends gathered to collect the grapes here mid-October, before being transported to Three Choirs winery in Newent, Gloucester. There they have the expertise to turn our grapes into quality wine. It will be July 2017 when we see our wine again, hoping for the same success as previous years. Cheers!